NAAPS - Shared Lives (formerly Adult Placement)

NAAPS Cymru

NAAPS Cymru

 

Shared Lives (formerly Adult Placement)

Cysylltu Bywydau (Lleoli Oedolion cyn hyn)

 
Gwasanaeth yw Cysylltu Bywydau a ddarperir gan unigolion a theuluoedd (Gofalwyr CB) mewn cymunedau lleol ac sydd wedi’i wahaniaethu drwy’r nodweddion canlynol:
·  Mae lleoliadau yn rhan o Gynlluniau trefnedig CB sy’n cymeradwyo a hyfforddi Gofalwyr CB, derbyn cyfeiriadau, cydweddu anghenion defnyddwyr gwasanaeth â Gofalwyr CB, a monitro’r lleoliadau
·  Mae pobl sy’n defnyddio gwasanaethau Cysylltu Bywydau yn cael cyfle i rannu yn rhwydweithiau teuluol a chymdeithasol y Gofalwr CB
·  Gall Gofalwyr CB ddefnyddio cartref eu teulu fel adnodd
·  Mae lleoliadau’n darparu perthnasoedd ymroddedig a chyson
·  Mae’r berthynas rhwng Gofalwr CB a’r person a leolir gydag ef yn gydfuddiannol
·  Gall Gofalwyr CB gynnal hyd at dri pherson ar yr un pryd (hyd at ddau berson yng Nghymru)
·  Nid yw Gofalwyr CB yn cyflogi staff i ddarparu gofal ar gyfer y bobl a leolir gyda hwy
 
Gall Gofalwyr CB ddarparu:
·  Llety hirdymor a chymorth
·  Cyfnodau byr o seibiant 
·  Cymorth dydd 
·  Cymorth adfer neu ganolraddol
·  Cymorth perthnasau lle mae’r gofalwr yn gweithredu fel ‘teulu estynedig’ ar gyfer rhywun sy’n byw yn eu cartref eu hun 
 
Mae aelodau Cysylltu Bywydau NAAPS yn cynnwys gweithwyr Cynlluniau CB, Gofalwyr CB a phobl a gynhelir drwy Gysylltu Bywydau.
 

Croeso i NAAPS CYMRU gan gynrychioli aelodau NAAPS yng Nghymru

Pwy yw pwy ym Mhwyllgor NAAPS CYMRU?
 
Cadeirydd
Tim Southern – Rheolwr Gwasanaeth Lleoli Oedolion ategi gan wasanaethu Caerdydd, RhCT a Thorfaen
Is-gadeirydd
Geoff Bliss – Cynrychiolydd Gofalwyr Lleoli Oedolion yng Nghaerfyrddin
Ysgrifennydd
Sue Merriman – Rheolwraig Gwasanaeth Lleoli Oedolion Pen-y-bont
Trysorydd
Brenda Cook – Gwasanaeth Lleoli Oedolion Abertawe
Cynrychiolwyr Gofalwyr
Mae gan bob cynllun gynrychiolydd gofalwyr penodol ar Bwyllgor NAAPS Cymru
 
 
Gallwch ysgrifennu at NAAPS CYMRU ym Mlwch Swyddfa’r Post 6053, Caerdydd, CF15 7WZ
 
Mae NAAPS CYMRU yn cynrychioli barnau a buddiannau pob aelod NAAPS yng Nghymru.
 
Mae’r swyddogion etholedig ar gael i gynnig cymorth, gwybodaeth a chyngor i unrhyw un sy’n ymddiddori yng Nghynlluniau Cysylltu Bywydau yng Nghymru.
 
Ar hyn o bryd mae aelodau’n cwrdd 4 gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau ar draws Cymru ac mae pob aelod yn cael ei annog i fynychu.
 
Mae gan bob Cynllun CB yng Nghymru 3 sedd ar Bwyllgor NAAPS Cymru; rhaid bod un o’r rhain o leiaf yn Ofalwr CB. Mae’r Cadeirydd etholedig yn cynrychioli barnau, pryderon a syniadau aelodau Cymreig i Fwrdd y DU NAAPS ac adborthi i’r Pwyllgor oddi wrth y Bwrdd.
 
Mae dyddiadau cyfarfodydd a chofnodion cyfarfodydd blaenorol ar gael gan yr ysgrifennydd.
 
 
Cynllun Iaith Gymraeg NAAPS 
Mae Clawr a Chynllun Iaith Gymraeg NAAPS ar gael i lwytho i lawr. Mae copïau caled ar gael gan Tim Southern (manylion ar ben y dudalen hon).
 
 
 
 
Back to the top of the page